Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2019

Amser: 08.30 - 08.50
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Rebecca Evans AC

Caroline Jones AC

Darren Millar AC

Staff y Pwyllgor:

Aled Elwyn Jones (Clerc)

Eraill yn bresennol

Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Bydd yr holl bleidleisio ar fusnes y llywodraeth yn digwydd yn syth ar ôl eitem 3.

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau ar fusnes y Cynulliad cyn y Ddadl Fer.

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb y cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o dan Reol Sefydlog 12.58.  

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Gofynnodd y Llywydd a allai'r Trefnydd egluro ymdriniaeth y llywodraeth  â chyfnod cyn-etholiad San Steffan. Nododd y Trefnydd fod Llywodraeth Cymru yn dal i aros i ganllawiau Llywodraeth y DU gael eu cyhoeddi, ac y byddai'n dod â nodyn i gyfarfod yr wythnos nesaf.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Gofynnodd Vikki Howells i’r Pwyllgor Busnes ystyried gohirio ei Dadl Fer o 13 Tachwedd, felly gofynnodd y Pwyllgor Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth weld a fyddai unrhyw un o’r Aelodau a oedd â Dadl Fer wedi’i threfnu cyn y Nadolig yn gallu cyfnewid gyda Vikki Howells.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 27 Tachwedd 2019 -

 

·         Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddai angen i ddeugain Aelod bleidleisio o blaid Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) er mwyn iddo basio.

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Llythyrau gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adrodd ar Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2019, a Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 erbyn dydd Iau 21 Tachwedd.

 

</AI8>

<AI9>

5       Rheolau Sefydlog

</AI9>

<AI10>

5.1   Cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes a chytynwyd hefyd i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019.

 

Cytunodd Rheolwyr Busnes hefyd i gyflwyno cynigion ar gyfer 13 Tachwedd i ddiwygio cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

</AI10>

<AI11>

5.2   Cynigion i Ddiwygio Rheol Sefydlog 12.63 ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes a chytynwyd hefyd i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i ddiwygio'r Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Cynulliad i adlewyrchu'r newidiadau hyn.

 

</AI11>

<AI12>

6       Unrhyw fater arall

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu)

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yr wythnos diwethaf ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) gan fod y Bil wedi cael ei ailgyflwyno i'r Senedd, ar ôl cwympo yn ystod y cyfnod addoedi. Fodd bynnag, bydd y Bil yn cwympo eto gan  na fydd wedi'i gwblhau cyn i'r Senedd gael ei diddymu cyn yr etholiad cyffredinol, ac felly ni fydd y llywodraeth yn gofyn i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio'r Memorandwm i'w graffu.

 

Etholiad Cyffredinol yn San Steffan

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd na ddylai etholiadau San Steffan effeithio ar fusnes y Cynulliad, a chafodd yr Aelodau eu hatgoffa hefyd fod Rheolau Sefydlog yn mynnu bod yn rhaid i areithiau fod yn "berthnasol i fusnes y Cynulliad". Nid y Cyfarfod Llawn yw'r lle i ymgyrchu dros etholiad cyffredinol y DU ac ni ddylai dynnu sylw'r Aelodau o'u ffocws ar faterion y mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Bydd y Llywydd yn galw unrhyw Aelodau neu Weinidogion i drefn os ydynt yn crwydro oddi wrth hyn i drafod maniffestos etholiad San Steffan, ymgyrchoedd gwleidyddol ac ymgeiswyr unigol.

 

Pleidleisio drwy ddirprwy

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd at y papur ar Bleidleisio drwy Ddirprwy yr wythnos nesaf i gael adborth gan grwpiau.

 

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>